





Wales is forever associated with the harp. It’s as Welsh as Bassey, Burton, Bevan and bara brith; love spoons and lava bread; as Welsh as lamb and Llewelyn the Great. The harp is a diverse instrument which can offer an exciting range of styles and repertoire to suite all tastes and occasions.
Harp music ranges from concert harpist repertoire to pop, jazz, classical, love songs, film music, Welsh traditional and much more. As well as its universal appeal through the ages – from Cerdd Dant and John Parry, to Florence and The Machine – the harp has healing properties, too. Harp music can transform a screaming baby into a dreaming baby, is used in primary care and palliative care and is now being used therapeutically to help treat our wounded soldiers.
Find out more about the harp and the many strings to its bow. At the Summer Harp Festival, at the National Botanic Garden of Wales, August 29-30.
Mae yna gysylltiad cryf bob adeg rhwng y delyn a Chymru. Yn wir, mae’r delyn mor Gymreig â Bassey, Burton, Bevan a bara brith; llwyau caru a bara lawr; mor Gymreig a chig oen a Llywelyn ein Llyw Olaf. Mae’r Delyn yn offeryn amrywiol iawn sy’n cynnig amrywiaeth o ardduliau sy’n addas I bob math a blas o gerddoriaeth. Mae’n affoerynjsy’n addas ar gyfer pob achlysur.
Mae cerddoriaeth y Delyn yn amrywio o gerddoriaeth cyngherddau clasurol, cerddoriaeth jazz, caneuon serch, cerddoriaeth ffilm, cerdd dant a llawer llawer mwy. Yn ogystal â meddu ar apêl cyffredinol ar hyd yr oesoedd - o gerdd dant a John Parry i Florence and The Machine – mae gan y delyn rinweddau meddyginiaethol hefyd. Gall cerddroiaeth y delyn droi babi sy’n sgrechian i fod yn fabi sy’n cysgu’n drwm a’n breuddwydio, mae’n cael ei ddefnyddio mewn gofal cynradd a gofal lliniarol, ac mae bellach yn cael ei ddefnyddio fel meddyginiaeth therapiwtig wrth mwyn trin milwyr sydd wedi eu hanafu.
Gallwch ddysgu rhagor am y delyn a’r nifer helaeth o rinweddau sy’n perthyn i’r offeryn hwn yng Ngŵyl Delynau’r Haf yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru, Awst 29ain - 30ain.